'margin-bottom:0cm;margin-bottom:.0001pt'>Ymwelodd y Prif Weinidog â Ffrainc i gymryd rhan mewn rhaglen o ddigwyddiadau i ddathlu blwyddyn Cymru yn Ffrainc ac i gefnogi gweithgarwch hyrwyddo yn ymwneud â chamau grŵp Cwpan Rygbi’r Byd. Cafodd y manylion am yr ymweliad eu cyhoeddi mewn datganiad ysgrifenedig.

Hydref 2023

Pennaeth Cenhadaeth Palestina i'r DU 

Cymru

Cyfarfu’r Prif Weinidog â Phennaeth Cenhadaeth Palestina i’r DU i drafod y gwrthdaro yn y Dwyrain Canol. 

Tachwedd 2023

Llysgennad Japan i'r DU 

Cymru

Ymwelodd y Llysgennad â Chymru i fynychu digwyddiad i ddathlu 50 mlynedd o fuddsoddiad Japan yng Nghymru. Cynhaliodd y Prif Weinidog gyfarfod dwyochrog â’r Llysgennad i drafod cysylltiadau Cymru a Japan a chyfarfu Gweinidog yr Economi â’r Llysgennad mewn cinio busnes gyda'r nos

Tachwedd 2023

Uchel Gomisiynydd India

Cymru

Cyfarfu’r Prif Weinidog ag Uchel Gomisiynydd India mewn digwyddiad a drefnwyd gan Gyngor Sikhiaid Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd. Trafodwyd ymgyrch Cymru yn India 2024 a chynlluniau ar gyfer derbyniad yn yr Uchel Gomisiwn o amgylch Dydd Gŵyl Dewi y flwyddyn nesaf. 

Tachwedd 2023

Cyn-gwpl cyntaf, Hillary a Bill Clinton

Abertawe

Cyfarfu'r Prif Weinidog â Hillary a Bill Clinton pan gymerodd bob un ohonynt ran yn Uwchgynhadledd Heriau Byd-eang Hillary Rodham-Clinton ym Mhrifysgol Abertawe. Roedd y digwyddiad yn trafod rhai o’r materion byd-eang pwysicaf, gan gynnwys anghydraddoldebau iechyd a chymdeithasol, yr argyfwng hinsawdd ac arweinyddiaeth ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. 

Tachwedd 2023

Gweinidog yr Economi

Yr Almaen

Ymwelodd Gweinidog yr Economi â'r Almaen am dri diwrnod, gan deithio i Düsseldorf, Stuttgart a Munich. Roedd yr ymweliad yn cynnwys llofnodi Datganiad o Gydweithrediad rhwng Cymru a thalaith Baden-Württemberg yn yr Almaen, ymweliad â MEDICA i gefnogi cwmnïau gwyddorau bywyd Cymru, ac ymweliad â Semicon Europa 2023.

Tachwedd 2023

Y Prif Weinidog

Iwerddon

 

Mynychodd y Prif Weinidog gyfarfod rhif 40 o'r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig ar 23 a 24 Tachwedd, a gynhaliwyd gan Lywodraeth Iwerddon.

Cyhoeddwyd Communiqué ar y cyd ar ôl yr Uwchgynhadledd, sydd ar gael yma.

Tachwedd 2023

Dim ymweliadau Gweinidogol ym mis Rhagfyr